OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2015 Rhif 1680 (Cy. 217) (C. 97)
LLYWODRAETH LEOL, CYMRU
Gorchymyn Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 (Cychwyn Rhif 1) 2015
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Dyma’r gorchymyn cychwyn cyntaf a wneir gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 (“y Ddeddf”).
Mae erthygl 2 o’r Gorchymyn yn darparu mai 5 Hydref 2015 yw’r diwrnod penodedig ar gyfer dwyn i rym ddarpariaethau’r Ddeddf a nodir yn yr erthygl honno ac y cyfeirir atynt isod:
adran 2 (trais yn erbyn menywod a merched)
adran 3 (dyletswydd i baratoi, cyhoeddi ac adolygu strategaeth genedlaethol)
adran 4 (dyletswydd i weithredu’r strategaeth genedlaethol)
adran 9 (gwybodaeth am ddarpariaeth addysgol i hybu diben y Ddeddf hon)
adran 11 (dangosyddion cenedlaethol)
adran 12 (adroddiadau cynnydd blynyddol gan Weinidogion Cymru)
adran 22 (cynllun blynyddol ac adroddiadau blynyddol)
adran 23 (cyhoeddi adroddiadau)
Daeth adrannau 1 (diben y Ddeddf hon), 24 (dehongli), 25 (cychwyn) a 26 (enw byr) i rym pan roddwyd y Cydsyniad Brenhinol ar 29 Ebrill 2015 yn rhinwedd adran 25(1) o’r Ddeddf.
Daeth adrannau 10 (canllawiau i sefydliadau addysg bellach ac uwch), 14 (ystyr “awdurdod perthnasol”), 15 (pŵer i ddyroddi canllawiau statudol), 16 (ymgynghori a gweithdrefnau Cynulliad Cenedlaethol Cymru), 17 (dyletswydd i ddilyn canllawiau statudol), 18 (datganiadau polisi: gofynion a phwerau ategol), 19 (cyfarwyddydau), 20 (Cynghorydd Cenedlaethol) ac 21 (swyddogaethau’r Cynghorydd) i rym ar 29 Mehefin 2015 yn rhinwedd adran 25(2) o’r Ddeddf.
OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2015 Rhif 1680 (Cy. 217) (C. 97)
LLYWODRAETH LEOL, CYMRU
Gorchymyn Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 (Cychwyn Rhif 1) 2015
Gwnaed 8 Medi 2015
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pŵer a roddwyd iddynt gan adran 25(3) o Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015([1]).
Enwi
1. Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 (Cychwyn Rhif 1) 2015.
Diwrnod penodedig
2. 5 Hydref 2015 yw’r diwrnod penodedig ar gyfer dwyn i rym y darpariaethau a ganlyn o Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015—
(a) adran 2 (trais yn erbyn menywod a merched);
(b) adran 3 (dyletswydd i baratoi, cyhoeddi ac adolygu strategaeth genedlaethol);
(c) adran 4 (dyletswydd i weithredu’r strategaeth genedlaethol);
(d) adran 9 (gwybodaeth am ddarpariaeth addysgol i hybu diben y Ddeddf hon);
(e) adran 11 (dangosyddion cenedlaethol);
(f) adran 12 (adroddiadau cynnydd blynyddol gan Weinidogion Cymru);
(g) adran 22 (cynllun blynyddol ac adroddiadau blynyddol); ac
(h) adran 23 (cyhoeddi adroddiadau).
Leighton Andrews
Teitl y Gweinidog, un o Weinidogion Cymru
8 Medi 2015